P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu, Gohebiaeth Deisebydd i'r Pwyllgor, 05.09.20

 

Darn dros Hanes Cymru yn y Senedd

 

Mae Hanes yn bwnc llawer pwysicach na dysgu i bwyso a mesur. Mae’n  adrodd hanes ein Cenedl i’n pobl, gan ddangos yr holl bethau sydd wedi digwydd, y da a’r drwg. Mae’n creu darlun o’r hyn ydi Cymdeithas, a sut mae’r tirlun cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd wedi esblygu ers dyddiau’r Celtiaid, trwy gyfnod Llywelyn a Glyndwr, trwy’r Chwyldro Diwydiannol a brwydrau’r 60au, sefydlu’r  Senedd yng Nghaerdydd yn 90au’r ganrif diwethaf ac ymlaen at y dydd presennol.

 

Pa fath o Gymry ydym ni os nad ydym yn gwybod ac adnabod hanes ein gwlad? Dwi’n credu fod Gerallt Lloyd Owen yn crynhoi hyn mewn un frawddeg berffaith “Estroniaid heb ystyr yw hanes”. Sut fedrwn ni ddeall beth yw’r Gymdeithas ‘ryda ni’n byw ynddi, ac i ba gyfeiriad mae hi’n mynd os nad yda ni’n gwybod a deall yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol?

 

 ‘Rown i yn un oedd ddigon ffodus i baentio murlun Cofiwch Dryweryn ar ol iddo gael ei ddinistrio ..a dyna pryd daeth difrifoldeb y broblem yn amlwg -  tra’n cyfarfod a phobl oedd erioed wedi clywed am drychineb Tryweryn.  Dinistr y murlun ddaeth a Tryweryn unwaith yn rhagor i sylw’r cyhoedd.

 

A dyna’r broblem.

 

Mae diffyg gwybodaeth am Hanes Cymru yn adlais o genedlaethau. Sawl tro yda ni wedi clywed ‘’Yn ysgol ‘rown i’n gwybod mwy am  Battle of Hastings 1066 nag ‘rown i am Llywelyn ein Llyw Olaf, Owain Glyndwr a’r Welsh Not”. Mae’r sefyllfa yr un mor ddigalon heddiw. Tydi hynny ddim wedi newid dim. Yr un peth ddigwyddodd i mi, ac a fydd yn digwydd i’m mhlant i ac i’r Genhedlaeth ar ei holau hwythau, - os na fyddwn ni’n gweithredu rwan!

 

Mae’r Llywodraeth yn cynnig Cwricwlwm newydd ar gyfer ein hysgolion. Ond beth fydd y cwricwlwm newydd yma yn ei olygu yng nghyd-destun dysgu Hanes Cymru os nad oes arweiniad, na chynnwys, na gwerslyfrau cadarn? Mae gen i edmygedd mawr o athrawon yn yr oes hon, ac mae disgwyl y byddent hwy’n gallu llunio gwersi a dysgu am Hanes Cymru heb strategaeth na chynnwys i’w cymorth.

 

Mi fydd hyn yn creu system loteri amlwg, lle bydd rhai plant yn  ddigon ffodus i ddysgu am Hanes Cymru a rhai eraill ...ddim. Mi fydd hyn yn creu gwahaniaeth mawr rhwng gwahanol ysgolion a hefyd mi fydd y gagendor rhwng disgyblion yr ysgolion Cymraeg a disgyblion yr ysgolion Saesneg yn mynd yn fwy fyth. Mae tystiolaeth yn dangos fod disgyblion sy’n mynychu ysgol Gymraeg gyda mwy o gyfleoedd i gael gwybodaeth am Hanes Cymru na’r rhai sy’n mynychu’r ysgolion Saesneg.

 

Credaf... fod y fath sefyllfa yn gwbl annerbyniol. Mae pobl hefo’r hawl i wybod a deall hanes eu gwlad eu hunain.  Toes dim synnwyr cuddio Hanes Cymru oddiwrth ei phobl. Mae angen i ni fod yn agored fel gwlad a dod i delerau gyda’n gorffennol. Ond..fedrwn ni ddim gwneud hynny heb wybod y ffeithiau yn gyntaf.

 

Dwi’n gofyn i chi rwan i ystyried yr hyn dwi wedi ei ddweud. Mi fyddai’n fwy na pharod i brotestio, ac rwy’n barod i ymprydio i’r eithaf ar risiau’r Senedd ei hun i sicrhau fod pobl y Genedl Gymraeg yn derbyn y gwybodaeth a’r addysg priodol am eu Hanes. Trwy hynny, byddwn wedyn yn datblygu dealltwriaeth o sut mae Cymru wedi cyrraedd y sefyllfa mae hi ynddi rwan. Trwy ddeall Hanes ein hunain, y down i ddeall sut i symud ymlaen fel unigolion ac fel Cenedl.